P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 09.01.20

 

Mae yn rhaid gwneud pethau yn rhwyddach I pobol suth ddim yn gweubod tref y proses apelio. Dylsa bob cyngor rhoid gwaith papur Sut I apelio gyda bob achos cau ysgolion.

Ers dileu hawl apelio at y Gweinidog Addysg, yr unig ddull sy'n agored i rieni a llywodraethwyr sydd wedi cael cam yw cŵyn aty Gweinidog Addysg fod Awdurdod Lleol wedi methu yn ei ddyletswydd addysgol. Mae hwn yn gam difrifol iawn i'w gymryd. Cynigiwn enghraifft  penderfyniad Cyngor Ynys Môn i gau Ysgol Bodffordd, sef yr hyn a symbylodd y ddeiseb yn y lle cyntaf. Yr oeddem yn sicr nad oedd y Cyngor Sir wedi cadw at holl ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau'r ysgol, ond doedden ni ddim yn honni fod yr Awdurdod Lleol yn "methu yn ei (holl) ddyletswyddau addysgol. Ond gorfodywd ni i gyflwyno cŵyn ffurfiol at y Gweinidog Addysg fod yr Awdurdod yn methu yn ei ddyletswydd gan mai dyna'r unig gam a oedd yn agored  i ni. Penderfynodd y Gweinidog ymchwilio a chyfaddefodd y Cyngor nad oedd wedi glynu wrth holl ofynion y Côd. Ond yr oeddem ni wedi derbyn cyngor cyfreithiol cychwynnol cyn hynny y buasai cais am Arolwg Barnwrol yn ddrud ofnadwy a bod y meini prawf yn uchel iawn. Petaen ni wedi gorfod dibynnu felly ar Arolwg Barnwrol mae'n debyg na buasem wedi cael datrysiad cyfiawn. Mae'n amlwg fod angen hawl syml i apelio ar sail proses, neu ddiffyg proses, yn unig a gall fod yn ymchwiliad cyflym iawn gan swyddogion Adran Addysg y llywodraeth.

Hoffem dynnu sylw'r Pwyllgor at y ffaith fod Cyngor Ynys Môn wedi ailddechrau'r broses y mis hwn o fygwth cau ein hysgol, ond gan fynd trwy "motions" ghofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion y tro hwn. Ac eto mae eu holl adroddiad wedi ei anelu at geisio profi fod angen cau ein hysgol. Felly mae'r Awdurdod wedi torri holl sail y Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd - sef eu bod i gychwyn y broses gyda rhagdyb o blaid cadw ysgol wledig. Ond yn ôl y ddedf bresennol, ni allwn gyflwyno cŵyn ffurfiol i'r Gweinidog Addysg nes bod yr holl broses wedi gorffen a bod cŵyn fewnol wedi bod - sy'n golygu misoedd o ansicrwydd a phoen eto. Dylai fod hawl, ar unrhyw adeg yny broses, cyflwyno apêl at y Gweinidog Addysg os nad yw Awdurdod yn cadw at ofynion y Côd.